Y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Dull Llywodraeth Cymru o fynd ati i adfywio canol trefi

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae ein fframwaith adfywio, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cydnabod mai canol trefi yw curiad calon ein cymunedau. Yno mae pobl yn cwrdd, yn siopa ac yn gweithio. Rydym yn cydnabod rôl bwysig canol ein trefi yn ein cymdeithas ac mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n trefi a’n dinasoedd ledled Cymru.

 

2.    Mae canol trefi’n amgylcheddau dynamig ac rydym yn cydnabod eu bod wedi wynebu, ac yn dal i wynebu, heriau sylweddol. Mae ffactorau megis cystadleuaeth gan ddatblygiadau ar gyrion trefi a siopa ar y rhyngrwyd oll yn effeithio ar ganol ein trefi. Mae canlyniadau’r ffactorau hyn yn amlwg yng nghanol llawer o drefi: strydoedd mawr gwan a bregus, sy’n cael eu difetha gan adeiladau gwag ac amgylcheddau siopa gwael.   

 

3.    Croesawodd Llywodraeth Cymru ymchwiliad y Pwyllgor i adfywio canol trefi a’i adroddiad yn 2012. Roedd ffocws y Pwyllgor yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi canol ein trefi a’n dinasoedd ac roedd yn dda gennym gefnogi argymhellion y Pwyllgor. 

 

4.    Mae adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor wedi bod yn allweddol o ran cefnogi polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru wrth iddynt esblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n bleser gennyf ddarparu diweddariad byr ar gyfer y Pwyllgor ar ein cynnydd a’n cyflawniadau mewn perthynas â’r 21 argymhelliad yma yn Atodiad 1.

 

Ymyriadau Llywodraeth Cymru

 

5.    Mae gan Lywodraeth Cymru ystod o bolisïau a rhaglenni, sy’n amrywio o ran cwmpas a maint, i gefnogi’r gwaith o adfywio canol trefi’n uniongyrchol.

 

6.    Mae ein fframwaith adfywio, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, a lansiwyd ym mis Mawrth 2013, yn gosod canol trefi wrth wraidd ein hymdrechion adfywio, ynghyd â chymorth i gymunedau arfordirol a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf.

 

7.    Un o’r egwyddorion sylfaenol yn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yw’r angen i ganol ein trefi arallgyfeirio. Ni all canol ein trefi ddibynnu ar fanwerthu yn unig wrth iddynt edrych tua’r dyfodol. Mae angen inni annog ein trefi i esblygu’n lleoedd y mae pobl am fyw, gweithio a hamddena ynddynt. Mae angen iddynt annog mwy o amrywiaeth o wasanaethau, megis iechyd ac addysg, er enghraifft, a sicrhau y bydd cyfleusterau cymunedol yn cael eu darparu o ganol trefi. Mae angen iddynt archwilio’r potensial cynhenid ar gyfer twristiaeth a gynigir gan economi fywiog gyda’r nos i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi economi leol fwy amrywiol. Mae cyfle i fwy o bobl fyw yng nghanol ein trefi, gan eu troi’n gymunedau llewyrchus, ac i adfywio safleoedd ac adeiladau gwag gan eu troi’n unedau preswyl er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg tai sy’n gyffredin ledled y wlad.

 

8.    Mae angen i’n trefi ddarganfod eu pwyntiau gwerthu unigryw a datblygu rheswm i bobl ymweld. Mae angen iddynt fod yn wahanol i’w cystadleuwyr – efallai trwy brofiadau gwych, arbenigedd a chyngor arbennig a gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel – rhywbeth na ellir ei brofi bob amser wrth siopa ar-lein. Er bod ein trefi’n wynebu materion tebyg, rydym ni’n credu bod gan bob canol tref ei faterion unigryw ac y bydd angen datrysiadau pwrpasol ar bob un ohonynt o ganlyniad. Bydd y rhain yn cael eu darparu gan bobl leol, y bobl sy’n adnabod ac yn deall eu cymunedau’n well nag unrhyw un arall.  

9.    Bydd adfywio canol trefi o gymorth i drechu tlodi. Wrth i ganol trefi gynyddu nifer yr ymwelwyr a’r siopwyr, gall cylch rhinweddol o dwf economaidd ddatblygu, gan greu cyfleoedd newydd o ran swyddi a hyfforddiant. Gall esblygiad canol trefi gynnig cyfleoedd newydd i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da, er enghraifft ar ffurf fflatiau uwchben safleoedd manwerthu. Fel y nodir uchod, gall canol trefi ddarparu’r lleoliad gorau ar gyfer gwasanaethau cymunedol hefyd, er enghraifft canolfannau iechyd, busnesau gofal plant, neu ganolfannau Cyngor Ar Bopeth.

 

10. Rydym wedi datblygu ystod o offer ac ymyriadau y gall y partneriaethau lleol hyn eu defnyddio i ymateb i’w heriau arbennig ac i gefnogi eu hymdrechion adfywio.

 

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – targedu buddsoddiad adfywio

 

11. Bydd Awdurdodau Lleol yn rhannu mwy na £100 miliwn ar gyfer cynlluniau adfywio o 2014 tan 2017. Bydd y gronfa’n cael ei buddsoddi mewn canol trefi, cymunedau arfordirol ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

 

12. Prif nodau’r buddsoddiad adfywio yw adfywio a hybu datblygiad cynaliadwy canol trefi, cymunedau arfordirol a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf trwy wneud y gorau o’u seilwaith gwyrdd, eu treftadaeth a’u cymeriad hanesyddol. Bydd ein buddsoddiad yn creu cymunedau cynaliadwy a llewyrchus sy’n fwy ffyniannus, wedi’u haddysgu’n well  ac yn iachach. Rydym yn trechu tlodi trwy greu swyddi, rhoi anogaeth i ddatblygu sgiliau a helpu pobl i gael gwaith. Rydym yn ysgogi buddsoddiad ehangach mewn tai trwy gyflawni prosiectau strategol o faint sylweddol sy’n bwysig yn rhanbarthol.

 

13. Mae’r Awdurdodau Lleol sy’n bartneriaid inni’n rhagweld y bydd y rhaglen yn creu mwy na 2,000 o swyddi, yn rhoi cymorth i 3,000 o bobl gael gwaith, yn ysgogi buddsoddiadau ychwanegol gwerth £124 miliwn, yn darparu 1,000 o unedau ychwanegol o dai fforddiadwy a mwy na 2,300 o unedau o dai ar y farchnad agored.

 

14. Yn Abertawe, er enghraifft, mae cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddiadau pwysig yn ardal y Stryd Fawr, gan ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat. Bydd prosiectau’r Stryd Fawr yn darparu tai cymdeithasol, arwynebedd llawr masnachol a manwerthu, unedau deor busnesau, a mannau cyhoeddus gan felly ddod â bywyd newydd i ardal fanwerthu sydd wedi dirywio. Byddant hefyd yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl ddi-waith.

15. Yng Nghaergybi, byddwn yn cefnogi pecyn integredig o welliannau i ganol y dref a fydd yn gwneud y dref yn lle mwy deniadol i ymweld ag ef neu redeg busnes ynddo. Bydd hyn yn cynnwys ail gam arfaethedig y Fenter Treftadaeth Treflun a fydd yn amcanu at wella adeiladau a gwella hygyrchedd y prif strydoedd yng nghanol y dref.

 

Y Gronfa Trechu Tlodi

 

16. Mae Cronfa Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn helpu i adfywio rhai o’r ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Mae’r gronfa sy’n werth £7 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â chanol trefi i drechu tlodi mewn ardaloedd yn y 10% uchaf ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae’r cyllid yn cael ei ganolbwyntio mewn ardaloedd amddifadus yng Nghymru: Tredegar, Rhymni, Grangetown, Llanelli, Y Rhyl, Caernarfon a’r Barri.

 

17. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael £1 miliwn dan y Gronfa Trechu Tlodi ar gyfer prosiectau adfywio yn Llanelli. Bydd arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ategu gan fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat. Nod y prosiect Opportunity Street yw trechu tlodi trwy wella safon adeiladau segur yng nghanol y dref er mwyn gallu gwneud defnydd economaidd ohonynt unwaith eto. Bydd yn gweddnewid adeiladau gwag i ddarparu cymysgedd o unedau masnachol a phreswyl. Bydd adeiladau gwag yn cael eu hadnewyddu a safle gwag yn cael ei ddatblygu i ddarparu cartrefi fforddiadwy ag un a dwy ystafell wely yng nghanol y dref. Bydd unedau masnachol fforddiadwy hefyd a fydd ar gael i fusnesau newydd ac ifanc ar delerau sy’n ei gwneud yn hawdd ymrwymo a rhoi’r gorau i brydles, gan greu cyfle ar gyfer entrepreneuriaeth a chyflogaeth. Rhagwelir y bydd nifer o wasanaethau sy’n mynd i’r afael â thlodi o fewn y Dref ar hyn o bryd yn cael eu hannog i ddod ynghyd dan yr unto i ddarparu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig, hygyrch a chynhwysfawr ar gyfer pobl mewn tlodi. Bydd amrywiaeth eang o gymorth ar gael gan gynnwys datblygu sgiliau a chymorth cyflogaeth. Bydd yr adeiladau newydd a’r adeiladau wedi’u hadnewyddu’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a safonau effeithlonrwydd amgylcheddol.


Ardaloedd Gwella Busnes

 

18. Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn ffordd o greu ffynhonnell cyllid gynaliadwy o fewn ardal sydd wedi’i diffinio’n eglur, megis canol tref. Mae busnesau’n cytuno i dalu lefi a ddefnyddir wedyn i ariannu gwelliannau yn yr ardal. Maent yn darparu ffynhonnell cyllid ychwanegol a ddefnyddir yn gyfan gwbl er budd ardal, i gefnogi gweithgareddau megis hyrwyddo, mynediad, digwyddiadau, rheoli canol trefi, wardeniaid stryd a threfi diogelach/glanach. Mae llawer yn ariannu, neu’n gwella, gweithgareddau dewisol a all fod dan fygythiad neu nad ydynt yn cael eu darparu o gwbl gan wasanaethau cyhoeddus. Fe’u rheolir a thelir amdanynt gan y sector preifat trwy ardoll orfodol. Mae busnesau o fewn ardal ddynodedig yn penderfynu beth yw’r materion ac yn penderfynu sut y bydd eu harian yn cael ei wario. 

 

19. Cyn y gellir eu sefydlu’n ffurfiol, rhaid i’r rhanddeiliaid o fewn ardal arfaethedig bleidleisio o blaid. Mae buddiannau rhanddeiliaid mawr a bach yn cael eu diogelu trwy system bleidleisio sy’n ei gwneud yn ofynnol cael mwyafrif o ran y pleidleisiau rhifiadol a fwriwyd a gwerth ardrethol pleidleisiau a fwriwyd. Gall Ardal Gwella Busnes bara am bum mlynedd ar y mwyaf a bydd naill ai’n cael ei diddymu ar ddiwedd ei chyfnod neu’n ceisio mandad newydd. Maent yn aml, ond nid wastad, yn bartneriaeth rhwng y gymuned fusnes leol a’r awdurdod lleol. Yn ogystal â chodi cyllid, maent yn darparu mecanwaith i’r sector preifat gydweithio a datblygu partneriaeth ragweithiol gyda’r sector cyhoeddus. Am y rheswm hwn gallant gyflawni rôl bwysig mewn gweithgarwch adfywio ehangach. 

 

20. Mae tua 200 o Ardaloedd Gwella Busnes wedi’u sefydlu yn y DU ar hyn o bryd. Mae tair yng Nghymru – yn Abertawe a Merthyr Tudful ac yn fwy diweddar fe sefydlwyd un yng Nghasnewydd o ganlyniad i bleidlais y llynedd.  

 

21. Yn ei adroddiad argymhellodd y Pwyllgor y dylid comisiynu adroddiad annibynnol i asesu effeithiolrwydd Ardal Gwella Busnes Abertawe ac i lywio’r gwaith o’u datblygu ymhellach yng Nghymru. Mae’r adroddiad, ynghyd ag ymchwil o bob rhan o’r DU, wedi llywio’r rhaglen y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gefnogi Ardaloedd Gwella Busnes yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

22. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £203,000 ym mis Ionawr 2014 i gefnogi’r broses o ddatblygu cynigion yng Nghymru. Rydym yn cefnogi deg ardal ar hyn o bryd: Y Fenni; Aberystwyth; Pen-y-bont ar Ogwr; Llanelli; Castell-nedd; Ystadau Diwydiannol y Pant a Merthyr Tudful; Pontypridd; Caernarfon; Bangor a Bae Colwyn.

 

23. Mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio gan y darpar ardaloedd i benodi ymgynghorwyr i gefnogi’r broses o ddatblygu’r Ardal Gwella Busnes. Mae’r ymgynghorwyr yn darparu arweiniad, cyngor a chymorth i sicrhau bod gan bob cynnig y siawns orau bosibl o lwyddo.

 

24. Rhaid cynnal pleidlais lwyddiannus ym mhob ardal cyn y gellir sefydlu Ardal Gwella Busnes a bydd pleidleisiau’n cael eu cynnal yn ystod 2015.

 

25. Mae Rhwydwaith Ardaloedd Gwella Busnes Cymru wedi cael ei sefydlu i’w gwneud yn bosibl cynnal deialog agored a rhannu gwybodaeth ynghylch y materion sy’n effeithio ar weithredu Ardaloedd Gwella Busnes yn llwyddiannus yng Nghymru. Mae hwn yn fforwm pwysig ar gyfer datblygu arbenigedd yng Nghymru ac yn gyfle i bob ardal ddysgu o brofiadau mewn ardaloedd cyfagos.

 

Partneriaethau Canol Tref

 

26. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r broses o ddatblygu Partneriaethau Canol Tref yng Nghymru. Prif bwrpas y rhaglen gyllido yw gweithredu fel y sbardun i ffurfio Partneriaethau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â phryderon lleol a chreu Cynlluniau Gweithredu ar gyfer pob anheddiad. 

 

27. Mae’r Cynlluniau Gweithredu hyn yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyfrannu at gynyddu llewyrch canol trefi trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr, lleihau effaith adeiladau gwag yng nghanol trefi, helpu busnesau a gwasanaethau yng nghanol trefi i ymsefydlu, tyfu a ffynnu, a chefnogi’r broses o arallgyfeirio canol trefi trwy hyrwyddo defnyddiau eraill megis defnyddiau preswyl a hamdden. Rydym hefyd yn awyddus i’r partneriaethau hyn archwilio dulliau newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu canol trefi gyda’r bwriad o ledaenu arfer gorau i leoliadau eraill ledled Cymru. 

 

28. Rydym yn darparu cymorth cyllido i ddatblygu ymyriadau llai, effeithiol a phenodol a all gael effaith barhaus o fewn y cymunedau hynny ond sy’n cyd-fynd â gweledigaeth a chynllun ehangach ar gyfer yr anheddiad. Mae pob prosiect wedi adnabod targedau a chanlyniadau eglur, mesuradwy gyda dyddiadau cyflawni arfaethedig.

 

29. Cam cyntaf pwysig yn y siwrne, wrth geisio cefnogi’r broses o adfywio canol ein trefi, yw galluogi trafodaeth rhwng rhanddeiliaid lleol a chytuno ar fesurau priodol i fynd i’r afael â’r heriau. Y gobaith yw y bydd Partneriaethau Canol Tref yn dod â’r rhanddeiliaid lleol hyn ynghyd i weithio tuag at nodau cyffredin, i gynnal canol tref sy’n llawn addewid, yn ddeniadol, yn ffyniannus ac yn ddiogel ar gyfer pobl leol. 

 

30. Yn Aberdâr, mae’r Bartneriaeth yn datblygu rhaglen ddigwyddiadau i annog mwy o bobl i ymweld â’r dref, maent yn datblygu ap ar gyfer ffonau symudol i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau yn y dref ac maent yn ceisio mynd i’r afael ag adeiladau gwag trwy gefnogi’r broses o sefydlu siopau dros dro. Ym Maesteg, maent yn ystyried datblygu dosbarthiadau meistr ar gyfer masnachwyr lleol ar ddatblygu gwasanaeth cwsmeriaid ac ym Mhrestatyn maent yn lanlwytho ffilmiau ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu tref i gynulleidfa ehangach.  

 

Cynllun Benthyciadau Canol Trefi

 

31. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Cynllun Benthyciadau Canol Tref. Fe brofon ni’r cysyniad â rhaglen beilot yn 2014/15 gyda chyllid o £5 miliwn yn cael ei rannu rhwng pedwar Awdurdod Lleol gwledig Powys, Ceredigion, Sir Fynwy a Sir Benfro. Yn 2015/16 bydd cyllid pellach o £5 miliwn yn cael ei rannu rhwng saith Awdurdod Lleol yn ardaloedd ein Cronfa Trechu Tlodi, a nodwyd fel ardaloedd sydd â lefel uchel o amddifadedd ac y mae angen cymorth arnynt.

 

32. Bydd y cyllid cyfalaf yn cael ei roi ar fenthyg i Awdurdodau Lleol ledled Cymru am hyd at 15 mlynedd. Yn ystod yr amser hwn gall cynghorau ailgylchu ac ail-fuddsoddi’r cyllid mewn gwahanol brosiectau sydd wedi’u bwriadu i wella canol eu trefi a gwneud adeiladau gwag a safleoedd adfeiliedig yn addas i’w defnyddio eto. 

 

33. Gall y cyllid a fenthycir gael ei ddefnyddio gan Awdurdodau Lleol i ddatblygu safleoedd, prynu ac uwchraddio adeiladau i’w gwerthu ar y farchnad agored a darparu benthyciadau ar gyfer sefydliadau trydydd parti megis perchnogion adeiladau, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat.

 

34. Bydd benthyciadau o'r fath yn helpu i greu swyddi ac ysgogi twf economaidd, gan gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael yng nghanol trefi a’u gwneud yn lleoedd mwy amrywiol, llewyrchus a deniadol i ymweld â hwy.

 

Ymgyrch ‘Cefnogwch Eich Stryd Fawr’

 

35. Cynhaliwyd yr Ymgyrch ‘Cefnogwch Eich Stryd Fawr’ o 20-27 Medi 2014 ledled Cymru a chafodd dderbyniad da gan strydoedd mawr ledled Cymru. Cyflawnwyd yr ymgyrch wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol a chan Awdurdodau Lleol ar lefel leol ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru ffocws cenedlaethol trwy greu hunaniaeth ar gyfer yr ymgyrch yn ogystal â chysylltiadau cyhoeddus ar lefel genedlaethol a rhanbarthol i ysgogi cefnogaeth. Cymerodd 21 Awdurdod Lleol ran yn yr ymgyrch, gyda rhai’n defnyddio’r ymgyrch i frandio digwyddiadau a gweithgareddau arfaethedig ac ychydig yn datblygu digwyddiadau a gweithgareddau i gyd-daro â’r ymgyrch. Cynhaliwyd 34 digwyddiad mewn 17 Awdurdod Lleol gwahanol yn ystod wythnos yr ymgyrch a sicrhawyd cyfanswm o 186 erthygl olygyddol a oedd yn golygu, ar gyfartaledd, bod 62 erthygl bob mis; Amcangyfrifir bod y sylw i’r ymgyrch yn y cyfryngau wedi cyrraedd 8.4 miliwn o bobl.

 

36. Byddwn yn cefnogi Ymgyrch bellach yn 2015.

 

Egwyddorion allweddol o ran cefnogi rhaglenni adfywio

 

37. Rydym ni’n credu bod partneriaeth yn hollbwysig. Dim ond trwy ymgysylltiad gwirioneddol â chymunedau, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat y gellir cyflawni adfywio cynaliadwy.    

 

38. Ar gyfer pob un o’r ymyriadau uchod rydym wedi gofyn i arweinwyr y prosiectau sefydlu mesurau perfformiad eglur o’r cychwyn cyntaf. Bydd gan bob ardal sy’n cael cyllid ddangosyddion eglur sy’n adlewyrchu’r gweithgareddau arbennig sy’n digwydd. Gellir gwneud hyn trwy ystyried nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol megis cyfrifiadau o nifer yr ymwelwyr, cyfraddau adeiladau gwag, cyfraddau troseddu, argaeledd cyfleusterau parcio ceir, nifer y busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, arolygon canfyddiad ac ati. Cyfrifoldeb i bob ardal yw pennu’r dangosyddion yn unol ag anghenion a materion lleol ac, yn bwysicaf oll, gan adlewyrchu gweithgareddau’r rhaglen arfaethedig. Y cwbl yr ydym ni’n ei bwysleisio yw y dylid sefydlu Sylfaen gynhwysfawr o’r cychwyn ac y dylai’r fethodoleg ar gyfer casglu’r wybodaeth fod yn eglur ac yn hawdd i’w hailadrodd ar gyfer casglu gwybodaeth mewn blynyddoedd yn y dyfodol. Mae prosesau monitro a gwerthuso wedi cael eu cynnwys o’r dechrau ym mhob rhaglen fuddsoddi.

 

39. Rydym wedi cryfhau’r trefniadau llywodraethu i wella’r broses gyflawni. Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat – cynllunio, manwerthu, chwaraeon, busnesau mawr a bach, cyngor ar bopeth, iechyd. Rôl Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y cyfan yw:

     rhoi arweiniad strategol fel corff cynghori annibynnol a herio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu polisïau ar gyfer adfywio fel y bo’n briodol, gan gynnwys polisïau cysylltiedig ar draws y Llywodraeth,

     Darparu trosolwg strategol ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer y ffrydiau cyllido dan y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid;

     Sicrhau bod y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cydgysylltu’n effeithiol ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid allanol;

     Casglu tystiolaeth o bob maes yn Llywodraeth Cymru ac o’r tu allan, gan archwilio’r rhwystrau yn ogystal ag arfer da;

     Sicrhau bod y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cael ei gwerthuso’n effeithiol;

     dylanwadu ar drawsnewid ar raddfa eang

 

40. Mae adfywio canol ein trefi’n gyfrifoldeb yr ydym yn ei rannu ar draws y Llywodraeth gyda phob portffolio Gweinidogol yn cyfrannu at yr agenda hon. Rydym wedi croesawu datganiad diweddar Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth o ran ardrethi busnes, er enghraifft, ac Adolygiad y Gweinidog Cyfoeth Naturiol o Bolisi Cynllunio.

 

41. Mae ein hymdrechion i adfywio canol ein trefi wedi’u cydblethu’n agos â’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Mae ein holl ymyriadau’n seiliedig ar gonglfeini sy’n mynnu eu bod yn creu cyflogaeth, yn cefnogi twf economaidd lleol ac yn mynd i’r afael â’r rhwystrau i gyflogaeth. Rydym hefyd wedi gwneud yr amcan i greu mwy o dai a thai o safon well yn rhan annatod o’n hagenda adfywio canol trefi gan fod cyfleoedd eglur i ‘breswyleiddio’ canol ein trefi mewn ymateb i’r heriau arbennig sy’n wynebu ein strydoedd mawr.

 

Cyfleoedd yn y Dyfodol   

 

42. Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd i ddefnyddio ffynonellau cyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith o adfywio canol ein trefi, gan gynnwys y cylch nesaf o gyllid Ewropeaidd. Mae fy Swyddogion mewn trafodaethau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar hyn o bryd ac yn archwilio cyfleoedd o’r fath.

 

43. Byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso ein gweithgareddau o ran adfywio canol trefi. Byddwn yn ceisio datblygu enghreifftiau o arfer da a chanlyniadau cadarnhaol yn ein rhaglenni gwaith yn y dyfodol. 

 

Diweddglo

 

44. Mae canol trefi’n cyflawni rôl bwysig o ran cefnogi cymunedau cynaliadwy ac mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod canol ein trefi a’n dinasoedd ledled Cymru yn cael eu cefnogi’n llawn yn eu hymdrechion i arallgyfeirio ac i esblygu. 

 

45. Mae’r papur hwn wedi dangos bod gan Lywodraeth Cymru ystod o ymyriadau i gefnogi a chyflawni ar gyfer canol ein trefi a’n dinasoedd mewn modd uniongyrchol. Mae’r rhain yn amrywio o ran eu maint a’u cwmpas ond yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer ein hymyriadau yw eu bod yn bwrpasol ac yn cefnogi’r datrysiadau a adnabuwyd gan bartneriaethau lleol.  

 

46. Er mwyn cefnogi’r ymyriadau uniongyrchol hyn mae’r ymwneud gan Lywodraeth Cymru ag adfywio canol trefi’n amrywiol ac yn ymestyn ar draws ein meysydd portffolio, gan gynnwys meysydd megis y cronfeydd strwythurol, trafnidiaeth, tai, treftadaeth a thwristiaeth.

 

47. O ystyried natur ddynamig yr her byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso ein gweithgareddau a byddwn yn gwneud ymdrech parhaus i wella. 

 

Lesley Griffiths AC
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi